Caerdydd
Mae lleoliad ein swyddfa yng Nghaerdydd yn ddelfrydol ar gyfer cyflenwi anghenion ein cwsmeriaid ledled Cymru. Cynigwn wasanaeth ymgynghorol cynhwysfawr yn ymwneud á materion cynllunio, yr amgylchedd, dylunio, trafnidiaeth ac, yn arbennig, achosion cynllunio cefn gwlad a threfol.
Agorwyd swyddfa DLP Consulting Group yng Nghaerdydd yn 2004 o ganlyniad i alw cynyddol am ein gwasanaeth yng Nghymru. Mae’r swyddfa yn un o rwydwaith o swyddfeydd sydd gan y cwmni ar draws Cymru a Lloegr. Caniatá hyn i ni fedru cynnig ystod eang o gyngor arbenigol wedi ei selio ar brofiad helaeth ac adnabyddiaeth dda o’r ardal. O dydd i ddydd ymgymerwn â phob math o faterion cynllunio yn cynnwys hyrwyddo datblygiadau ar lefelau lleol a strategol, cynlluniau adfywio trefol, gwerthuso safleoedd, ceisiadau cynllunio, apeliadau, gorfodaeth cynllunio, trafnidiaeth a dylunio dinesig.
Mae’r swyddfa yng Nghaerdydd hefyd yn ymgymryd â chomisiynau cynyddol oddi wrth nifer o Gynghorau Lleol sy’n awyddus i fanteisio ar yr arbenigedd o fewn y cwmni – er enghraifft, i wneud asesiadau effeithiau strategol ac amgylcheddol neu ddarparu astudiaethau o gynhwyster trefol.
Registered number: 03161011 Registered office: 4 Abbey Court, Priory Business Park, Bedford MK44 3WH
